SL(5)180 - Rheoliadau Gorfodaeth Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018

Cefndir a Phwrpas

Mae'r offeryn hwn yn diwygio dwy Ddeddf Seneddol i roi pwerau i reoleiddwyr fynd i'r afael â gweithgarwch anghyfreithlon yn y sector gwastraff sy'n cynnwys safleoedd a drwyddedir o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 ("EPR") neu sydd wedi'u heithrio o'r gofyniad i gael trwydded.

Diwygir Deddf yr Amgylchedd 1995 ("EA 1995") i fewnosod adrannau 109A i 109N newydd i roi i Gyfoeth Naturiol Cymru (NRW) y gallu i wahardd/cyfyngu mynediad i safleoedd gwastraff a drwyddedir a rhai anghyfreithlon trwy ddulliau ffisegol ac i ddiogelu adeiladau yn erbyn mynediad.

Diwygir Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("EPA 1990") i ehangu pwerau NRW (fel awdurdod rheoleiddio gwastraff Cymru) ac awdurdodau lleol (fel awdurdodau casglu gwastraff Cymru) i roi hysbysiad i feddianwyr neu berchnogion tir, gan eu gwneud yn ofynnol iddynt ymgymryd â gweithredu penodol ar eu tir mewn perthynas â gwastraff a gedwir yn anghyfreithlon neu a waredir yn anghyfreithlon, gan gynnwys ei symud.

Y weithdrefn

Cadarnhaol (cyfansawdd).

Craffu Technegol

Nodir un pwynt ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2(ix) mewn perthynas â'r offeryn hwn, sef na fydd yn cael ei wneud yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 Mae hwn yn offeryn cyfansawdd, sy'n golygu ei fod yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU. Mae'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau yn dweud "As this composite instrument is subject to approval by the National Assembly for Wales and by the UK Parliament, it is not considered reasonably practicable for this instrument to be made or laid bilingually."

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o Fil yr UE (Ymadael) (y Bil), felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i gael effaith yng Nghymru ar ôl y diwrnod gadael. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn delio â diffygion sy'n deillio o ymadael â'r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

O ran y Gyfarwyddeb Wastraff, ni fydd y Gyfarwyddeb honno'n rhan o gyfraith ddomestig yn awtomatig ar y diwrnod gadael nac ar ôl y diwrnod hwnnw o dan y Bil. Fodd bynnag, os yw llys neu dribiwnlys wedi cydnabod, cyn y diwrnod gadael, fod Cyfarwyddeb yr UE yn rhoi hawl i unigolyn y gall yr unigolyn ddibynnu arno a'i orfodi yn y gyfraith, yna bydd yr hawl hwnnw'n rhan o gyfraith ddomestig ar y diwrnod gadael ac ar ôl y diwrnod hwnnw (gweler cymal 4 o'r Bil).

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

25 Ionawr 2018